R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynaliadwyedd ‘Cynllun Gwên’? OAQ(4)0250(HSS)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu'r gwasanaethau iechyd? OAQ(4)0247(HSS)
3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau ar gyfer dyfodol gofal mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0256(HSS)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sylfaen ariannol GIG Cymru, gan gyfeirio'n benodol at ranbarth Canol De Cymru? OAQ(4)0262(HSS)
5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella gwasanaethau i bobl sy'n dioddef o hemoffilia yng Nghymru? OAQ(4)0253(HSS)
6. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gofal a roddir i blant sydd â diabetes math 1? OAQ(4)0258(HSS)
7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i gynnal o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0249(HSS)
8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo lles plant mewn gofal? OAQ(4)0260(HSS)
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau rheoli poen yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0248(HSS)
10. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut yr eir i'r afael ag epidemig y frech goch yng Nghymru? OAQ(4)0263(HSS)
11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drefniadau sydd wedi eu gwneud ar gyfer gwasanaethau prostheteg i gyn-filwyr sydd yn dychwelyd i Gymru? OAQ(4)0261(HSS)W
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oedi o ran amseroedd aros ym Mhowys? OAQ(4)0245(HSS)
13. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu negeseuon cadarnhaol am iechyd y cyhoedd? OAQ(4)0255(HSS)
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau a wnaiff y Gweinidog eu cymryd yn ystod 2013 i wella amseroedd ymateb ambiwlansys yng Nghymru? OAQ(4)0251(HSS)
15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer GIG Cymru am y chwe mis nesaf? OAQ(4)0254(HSS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Russell George (Sir Drefaldwyn): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer trechu tlodi yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0002(CTP)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau tlodi plant Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0018(CTP)
3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i wella cyfle cyfartal i fenywod yn y gweithle? OAQ(4)0007(CTP)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â masnachu mewn pobl? OAQ(4)0003(CTP)
5. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei opsiynau i gyflwyno rhaglen newydd yn lle'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol? OAQ(4)0001(CTP)
6. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei amcanion allweddol ar gyfer trechu tlodi yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0006(CTP)
7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i helpu i liniaru tlodi plant yn sgîl diwygiadau lles? OAQ(4)0011(CTP)
8. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae'n bwriadu mynd i’r afael â thlodi yn Nhorfaen? OAQ(4)0010(CTP)
9. Mick Antoniw (Pontypridd): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag achosion tlodi yn ardal Pontypridd? OAQ(4)0009(CTP)
10. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer cynorthwyo'r rhai sy'n ennill cyflog isel yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0013(CTP)
11. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(4)0017(CTP)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod 2013 i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru? OAQ(4)0005(CTP)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r Cynllun Hawl Cymuned i Brynu? OAQ(4)0019(CTP)
14. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am newidiadau mewn tlodi plant yn Ne Caerdydd a Phenarth ers 2010? OAQ(4)0016(CTP)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi parhaus yng nghymunedau Canol De Cymru? OAQ(4)0020(CTP)